Adeiladu unedau diwydiannol newydd ym Mhencoed

Dydd Mercher 29 Mehefin 2022

Mae’r gwaith o adeiladu 18 uned newydd ym Mharc Technoleg Pencoed fel rhan o gynllun newydd, wedi dechrau.

FABCO Holdings sy’n goruchwylio’r gwaith o adeiladu’r unedau newydd, a fydd ar ffurf pum teras hunangynhwysol yn Llys Felindre. Disgwylir iddynt fod yn barod erbyn mis Medi 2022.

Mae’r datblygwyr yn dylunio’r unedau newydd gyda’r nod o gyflawni sgôr effeithiolrwydd ynni A a bydd mannau gwefru cerbydau trydan i’w cael yno hefyd.

Bydd yr unedau newydd yn gymorth i ddenu busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn bodoli i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ail gymal o unedau yn cael eu hystyried.

Rhagor o wybodaeth ynghylch yr unedau newydd sy’n cael eu hadeiladu.

<< Yn ôl at Newyddion