Age at Work Cymru yn lansio ar gyfer busnesau

Dydd Llun 22 Awst 2022

Mae’r rhaglen Age at Work Cymru wedi lansio ar hyd y wlad.

Mae rhaglen Age at Work Cymru yn rhoi cymorth i gyflogwyr recriwtio, cadw a hyfforddi gweithwyr hŷn fel rhan o weithlu sy’n pontio cenedlaethau.  Gyda thros draean o’r gweithlu presennol dros 50 oed, bydd y rhaglen yn caniatáu i fusnesau gynorthwyo i gefnogi eu gweithwyr hŷn a’u cynorthwyo i ffynnu yn y gweithle.

Gellir cofrestru ar gyfer y rhaglen yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys:

  • Mynediad at rwydwaith dysgu sy’n cyfarfod yn fisol
  • Adolygiadau busnes
  • Pecynnau Cymorth Cyflogwr
  • Gweminarau adolygu canol gyrfa

Gallwch ddysgu mwy a chofrestru ar gyfer y rhaglen.

Darperir Age at Work gan Business in the Community Cymru mewn partneriaeth ag Age Cymru ac mae AM DDIM, diolch i gymorth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

<< Yn ôl at Newyddion