Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ennill yng Ngwobrau StartUp Cymru

Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023

Mae’r cwmni newydd o Ben-y-bont ar Ogwr, Helping Kids Shine Limied, wedi’i enwi fel ‘Busnes Newydd Iechyd a Llesiant y Flwyddyn’ yn rowndiau terfynol StartUp Cymru 2023 ar 22 Mehefin.

Mae Helping Kids Shine Limited yn cefnogi plant ac yn grymuso teuluoedd.  Maent yn helpu rhieni blinedig pobl ifanc fel bod realiti bywyd yn cael ei gydnabod, a bod bywyd yn dod yn haws.

Maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc unigryw sy’n cael trafferth ymdopi mewn amgylchedd ysgol ac yn helpu i nodi cryfderau a heriau wrth gyfrannu, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a gwneud yn fawr o fod yn unigryw.

Bryher a Ben Hill sydd wrth y llyw yn Helping Kids Shine Limited, gyda thîm cynyddol o weithwyr y tu ôl iddynt.  Mae Helping Kids Shine Limited wedi’i leoli yn Abercynffig ac yn darparu gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr.

Mae’r Gwobrau StartUp yn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr y Gwobrau Great British Entrepreneur – rhaglen sefydledig genedlaethol sy’n derbyn dros 5,000 o geisiadau bob blwyddyn – a Gwobrau StartUp Cymru, yr unig wobrau rhanbarthol sy’n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd.

Dysgwch fwy a gweld y rhestr lawn o enillwyr.

<< Yn ôl at Newyddion