Cronfa Welliant i Gwsmeriaid a Chymunedau GWR ar agor i geisiadau

Dydd Llun 4 Mawrth 2024

Mae’r gronfa Welliant i Gwsmeriaid a Chymunedau Rheilffordd y Great Western nawr ar agor i geisiadau.

Dyluniwyd y gronfa i helpu prosiectau bach a chanolig yn ymwneud â rheilffyrdd y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/2025.

Mae Rheilffordd y Great Western yn chwilio am brosiectau sydd:

  • o fudd i gwsmeriaid
  • yn cynyddu teithio ar y rheilffordd
  • yn annog lleihau carbon
  • yn cysylltu cymunedau
  • yn cefnogi twf economaidd
  • yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth
  • gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch rheilffordd a thrafnidiaeth gyhoeddus

Rhaid i’r prosiectau fod o fewn ardal rwydwaith Rheilffordd y Great Western, a rhaid iddynt ddarparu budd i deithwyr.

Rhaid gwneud ceisiadau ar-lein a derbynnir ceisiadau hyd at ddydd Llun 25 Mawrth.

Dysgwch fwy a gwnewch gais.

<< Yn ôl at Newyddion