Cyfreithiau ailgylchu yn y gweithle newydd yn dod i rym yn 2024

Dydd Gwener 3 Tachwedd 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfreithiau newydd i fusnesau mewn perthynas ag ailgylchu a gwastraff yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Bydd y gyfraith yn dod i rym ddydd Sadwrn 6 Ebrill 2024, ac mae’n golygu y bydd gofyn i bob gweithle wahanu ei ddeunyddiau ailgylchadwy yn yr un ffordd mae aelwydydd yn trin â deunyddiau ailgylchadwy ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y trydydd safle ledled y byd o ran ailgylchu gwastraff o gartrefi, a bydd ailgylchu o fewn busnesau’n galluogi inni adeiladu ar y llwyddiant hwn.

Bydd y cyfreithiau newydd yn golygu y bydd angen i weithleoedd wahanu:

  • Papur
  • Cerdyn
  • Gwydr
  • Metel, Plastig a Chartonau
  • Bwyd
  • Offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu
  • Tecstilau heb eu gwerthu

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyfreithiau ailgylchu newydd hyn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Dysgwch fwy am y cyfreithiau newydd.

<< Yn ôl at Newyddion