Mae’r Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni bellach ar gael ar gyfer busnesau a sefydliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yn cynnig cymorth gyda biliau ynni ar gyfer cwsmeriaid annomestig ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, a fydd yn cael ei gymhwyso’n awtomatig.
Mae’r cynllun wedi cymryd lle’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni a oedd yn cefnogi busnesau rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gostyngiad Diwydiannau Ynni a Masnach Dwys (ETII) i gynnig lefel uwch o gymorth i fusnesau mewn sectorau cymwys. Bydd angen i fusnesau gofrestru ar gyfer y gostyngiad hwn. Mae’r un peth yn berthnasol i’r gostyngiad Rhwydwaith Gwres os ydych yn fusnes gyda chwsmeriaid terfynol domestig.
Dylai’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n gymwys i dderbyn y gostyngiad ddisgwyl gweld newidiadau yn eu bil mis Mai.
Ewch i wefan GOV.uk am ragor o gymorth ac arweiniad.
Dilynwch ni