Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau micro, bach a chanolig sy’n adeiladu prosiectau yn canolbwyntio ar economi’r dyfodol.
Mae’r gystadleuaeth yn ei phumed cam a’i cham terfynol o geisiadau ac mae’r benthyciadau yn canolbwyntio’n benodol ar fusnesau sy’n cynnig prosiectau sy’n canolbwyntio ar economi’r dyfodol.
Mae’n rhaid i fusnesau fodloni’r gofynion canlynol:
Mae’n rhaid i’ch prosiect arwain at gynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd sydd ymhell ar y blaen i rai eraill sydd ar gael yn barod neu gynnig defnydd arloesol o gynnyrch, prosesau neu wasanaethau sy’n bodoli’n barod.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar gyfer y benthyciadau yw dydd Mercher 14 Medi.
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus ym mis Tachwedd 2022, gyda phrosiectau yn dechrau ym mis Ionawr 2023.
Gwiriwch eich cymhwysedd ac ymgeisiwch.
Dilynwch ni