Mae dwy gronfa newydd wedi eu cyhoeddi gan Digwyddiadau Cymru er mwyn cefnogi cynaliadwyedd digwyddiadau a datblygiad y sector digwyddiadau.
Fel rhan o Strategaeth newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae datblygu’r sector digwyddiadau yn ogystal â chynaliadwyedd digwyddiadau wedi eu hamlygu fel blaenoriaethau cyfredol, gyda’r cronfeydd yn cael eu sefydlu yn benodol er mwyn targedu’r ffrydiau gwaith hyn.
Dyma’r cronfeydd:
Y Gronfa Datblygu Sector
Y Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd
Gwahoddir ceisiadau gan fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â phrosiectau partner rhwng 2 neu fwy o ymgeiswyr.
Darganfyddwch fwy am y cronfeydd busnes newydd.
Dilynwch ni