Gwahodd busnesau i ddysgu am blastigau cynaliadwy

Dydd Mawrth 16 Awst 2022

Mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwahoddiad i fynychu digwyddiad am y datblygiadau cyffrous diweddar ynghylch plastigau cynaliadwy.

Mae Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn cynnal digwyddiad yng ngwesty Raddison Blu yng Nghaerdydd, yn ymdrin â’r Her Pecynnu Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP). Bydd y digwyddiad yn rhoi manylion ymlaen llaw i fusnesau am gynlluniau ar gyfer cystadleuaeth ariannu newydd a mynediad at gymorth ehangach i helpu busnesau i dyfu.

Mae’r her yn gweithio tuag at wneud pecynnu plastig yn addas ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Y rhaglen bum mlynedd, sy’n costio £60 miliwn, yw’r buddsoddiad mwyaf gan lywodraeth y DU yn yr ymchwil arloesol, ac mae’n adlewyrchu’r angen i helpu i gael gwared ar lygredd plastig.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 6 Medi, rhwng 9am a 3.30pm.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich lle.

<< Yn ôl at Newyddion