Mae’r Her Bwyd Cynaliadwy ar agor nawr ar gyfer ceisiadau

Dydd Llun 4 Medi 2023

Mae’r Her Bwyd Cynaliadwy ar agor erbyn hyn ar gyfer ceisiadau.

Mae’r her yn golygu chwilio am atebion arloesol a all gynyddu faint o fwyd lleol a dyfir mewn modd cynaliadwy ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Y nod yw dod o hyd i fusnesau a sefydliadau eraill a chanddynt syniadau’n ymwneud â’r canlynol:

  • Ffyrdd o annog a gwella gwybodaeth mewn ysgolion ynglŷn â’r manteision sy’n perthyn i gael gafael ar fwyd trwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol
  • Offer masnachu integredig dynamig a all wneud y gorau o gyflenwi a dosbarthu cyflenwadau bwyd lleol
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy tra’n cynnal cynnyrch amaethyddol
  • Ffermio arloesol

Cynhelir yr her mewn dau gam. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys elfen arddangos lle bydd hyd at £80,000 ar gael fesul prosiect er mwyn i sefydliadau llwyddiannus allu arddangos eu syniadau. Yn ystod yr ail gam, bydd y syniadau cryfaf yn cael eu datblygu, a chynigir £1 miliwn yn ychwaneg i bob prosiect.

Bydd digwyddiad briffio ar-lein yn cael ei gynnal ddydd Iau 21 Medi. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Llun 9 Hydref.

Cewch ragor o wybodaeth am yr her yma.

<< Yn ôl at Newyddion