Rhaglen recriwtio ar gyfer graddedigion

Dydd Llun 28 Tachwedd 2022

Mae Venture Graduates yn cynnig gwasanaeth datblygu a recriwtio graddedigion rhad ac am ddim i gysylltu graddedigion gyda busnesau ar draws De Cymru.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gychwyn graddedigion prifysgol ar eu gyrfa ddewisol a’r gallu i gyfoethogi eu datblygiad proffesiynol. Gall graddedigion a busnesau gofrestru ar y rhaglen 12 mis a fydd yn galluogi graddedigion i ddechrau eu gyrfaoedd a chynorthwyo busnesau i dyfu a ffynnu.

Mae’r rhaglen ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys:

  • Gwasanaethau recriwtio proffesiynol, wedi eu teilwra’n arbennig i’ch dewis o rôl mewn swydd
  • Cyngor arbenigol a chymorth proffesiynol
  • Cymorth cyswllt, digwyddiadau a llesiant parhaus i gyflogwyr graddedigion
  • Mynediad at gronfa dalent eang drwy bartneriaethau â phrifysgolion
  • Cyfleoedd i geisio rhwydwaith byd-eang o entrepreneuriaid ac arbenigwyr diwydiant

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen, rhaid i’ch busnes fod wedi’i leoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, bod ar gael i recriwtio unigolyn graddedig am y tro cyntaf ac yn y sector preifat, cyhoeddus neu’r sector nad yw er elw.

Mae dros 100 o raddedigion wedi cael eu hapwyntio drwy’r cynllun hwn, gyda 85% o’r rolau wedi eu gwneud yn rhai parhaol ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Gallwch ddysgu mwy a chofrestru ar gyfer y rhaglen.

<< Yn ôl at Newyddion