Siop Wnïo leol yn ennill Siop Wnïo Annibynnol Orau am yr ail flwyddyn yn olynol

Dydd Gwener 6 Ionawr 2023

Mae siop wnïo leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ennill gwobr Siop Wnïo Annibynnol Orau Sew Magazine am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae Pink Scissors Fabric, sydd wedi eu lleoli ar Heol Coety, wedi bod yn rhedeg ers 2014. Dechreuodd Suzanne Whelan y busnes o ganlyniad i’w hoffter o ffabrigau a gwnïo, gan ddod â’i diddordeb mewn gwahanol fathau o ffabrigau anghyffredin gyda phrintiau cyfoethog hardd i Fwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Pink Scissors Fabric yn cefnogi Prosiect Linus Pen-y-bont ar Ogwr drwy roi ffabrig dros ben a lle yn y siop ar gyfer hyfforddiant. Mae Prosiect Linus yn cynorthwyo i wneud cwiltiau i blant a phobl ifanc sy’n dioddef trawma. Cafodd y siop goflech y Loteri Genedlaethol am eu cymorth ym Mawrth 2022.

Ar ôl ennill gwobr Sew Magazine unwaith eto, dywedodd Suzanne, “Mae ennill y Siop Wnïo Annibynnol Orau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol gan Sew Magazine yn wych i fusnes bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pan oedd fy mhlant yn fach, roeddwn wrth fy modd yn gwneud dillad iddyn nhw ac o’r hoffter hwn y tyfodd Pink Scissors Fabric. Pleidleiswyd am y wobr gan ddarllenwyr Sew Magazine ac mae’n wobr genedlaethol, felly roeddwn yn cystadlu yn erbyn rhai o’r hogiau mawr. Enillais y wobr diolch i f’athrawon a fy nghwsmeriaid ffyddlon!”

Hoffai Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch Suzanne ar gipio’r wobr am yr ail flwyddyn yn olynol!

Dysgwch fwy am Pink Scissors Fabric.

<< Yn ôl at Newyddion