Agor sianelau cyfathrebu da gyda’ch cwsmeriaid yw’r allwedd. Ceisiwch ganfod pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n eu defnyddio, ymunwch â nhw a chreu eich presenoldeb ar lein i gysylltu’n ddyfal â’ch cwsmeriaid.
Unwaith y byddwch chi ar y cyfryngau cymdeithasol, peidiwch â gorffwys ar eich rhwyfau, gwnewch eich gwaith cartref a chanfod a yw’n gweithio mewn gwirionedd o ran eich nodau busnes – bydd gwneud hyn hefyd yn eich helpu i ganfod beth allech chi ei wneud yn well.
Mae defnyddio dolenni cyfryngau cymdeithasol ar eich gwefan a’ch e-byst yn ffordd hawdd o gyfeirio pobl at eich tudalen Facebook, cyfrif Twitter ayb, gan ddenu rhagor o ddilynwyr.
Mae byd y cyfryngau cymdeithasol yn datblygu’n barhaus ac mae yna fwy a mwy o lwyfannau’n dal i ymddangos o hyd. Cadwch i fyny â’r newyddion cyfryngau cymdeithasol diweddaraf a bod un cam ar y blaen.
Weithiau, bydd cwsmeriaid yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gwyno’n gyhoeddus. Y rheolau euraidd yw peidio â bod yn amddiffynnol na chael eich tynnu i ddadl ar lein – ymateb yn brydlon, diolch iddyn nhw am ddwyn hyn i’ch sylw, bod yn gadarnhaol ond, yn fwy na dim, peidio â’u hanwybyddu na’u dileu. Gofynnwch i’ch cwsmeriaid am eu sylwadau a gweithredu arnyn nhw i ddangos eich bod yn gwrando.
Byddwch yn gyson yn y negeseuau rydych yn eu gosod ar y cyfryngau cymdeithasol a darparu gwybodaeth onest, gywir rhag codi gwrychyn – neu fe fydd yn sicr o ddod yn ôl a’ch brathu ryw bryd!
Rhaglen yn cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yw Cyflymu Cymru i Fusnesau sy’n cynnig, i fusnesau bach a chanolig, cymwys, weithdai rhad ac am ddim a diagnostig anghenion technoleg, cefnogaeth 1 i 1, adolygiad gwefan rhad ac am ddim, y cyfan yn cael ei gefnogi gan wybodaeth ac offer sydd ar gael ar www.businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy
03000 603000 / superfast@businesswales.org.uk
Dilynwch ni