Newyddion


Busnesau’n dweud eu dweud ar Ŵyl Nadolig Ddigidol

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021

Mae busnesau wedi cymryd rhan mewn arolwg sy’n darparu adborth ar Ŵyl Nadolig Ddigidol gyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nod yr ŵyl oedd cynnig ffyrdd amgenach ac mwy diogel i breswylwyr ddathlu’r Nadolig yng nghanol trefi yn ystod pandemig coronafeirws, a gafodd ei gynllunio i gefnogi busnesau lleol trwy ddarparu cyfleoedd i arddangos […]

Darllenwch 'Busnesau’n dweud eu dweud ar Ŵyl Nadolig Ddigidol' >

Un o gwmnïau allforio mwyaf blaenllaw Cymru yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021

Mae Markes International, un o gwmnïau allforio mwyaf blaenllaw Cymru, wedi arwyddo prydles 15 mlynedd yn Central Park yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu offer sy’n gallu adnabod olion cemegion yn yr atmosffer i gleientiaid byd-eang. Mae Markes International yn symud o Lantrisant i Ben-y-bont ar Ogwr, lle mae adeilad yn cael […]

Darllenwch 'Un o gwmnïau allforio mwyaf blaenllaw Cymru yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr' >

Gostyngiad rhent newydd i fasnachwyr marchnad ac unedau busnesau bach

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymestyn ei gynllun rhenti rhatach ar gyfer masnachwyr marchnad a meddianwyr unedau diwydiannol bach. Mae’r gostyngiad o 50 y cant, a fydd ar waith tan 31 Mawrth 2021, yn rhan o gyfres o gyfraddau rhenti rhatach a gyflwynwyd yn wreiddiol i gynorthwyo busnesau bach a chanolig wrth […]

Darllenwch 'Gostyngiad rhent newydd i fasnachwyr marchnad ac unedau busnesau bach' >

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor i fasnachwyr allweddol

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor ddydd Mercher 10 Chwefror gan ganiatáu i fasnachwyr allweddol ailddechrau masnachu. Bydd y farchnad yn agor rhwng 9am a 3pm, dydd Llun i Sadwrn, ac mae pum masnachwr bwyd yn paratoi i ailagor. Yn eu plith mae becws, cigydd a delicatessen, yn ogystal â stondinau ffrwythau […]

Darllenwch 'Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor i fasnachwyr allweddol' >

Derbyn cyllid i wella Parc Gwledig Bryngarw

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Mae llwybr treftadaeth cerflunwaith a gwelliannau eraill ar y gweill i Barc Gwledig Bryngarw ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dderbyn rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ei gyfarfod dydd Mawrth 19 Ionawr. Yn 2019, dyfarnwyd Grant Cyfalaf Safleoedd Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i […]

Darllenwch 'Derbyn cyllid i wella Parc Gwledig Bryngarw' >

Cronfeydd busnes newydd ar gael ar gyfer arloesi, busnesau newydd ac addasiadau i eiddo

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Bydd cyllid newydd drwy Dasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr arian yn cefnogi busnesau newydd, addasiadau i eiddo busnes a chynigion arloesol sy’n helpu i gefnogi’r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt. Yn eu plith mae: Cyllid Dechrau […]

Darllenwch 'Cronfeydd busnes newydd ar gael ar gyfer arloesi, busnesau newydd ac addasiadau i eiddo' >

Chwe cham gweithredu

Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021

Y chwe cham gweithredu allweddol y gall fod angen i lawer o gwmnïau eu cymryd yw: Nwyddau – os ydych yn mewnforio nwyddau o’r UE neu’n allforio nwyddau i’r UE, rhaid i chi gael rhif EORI, gwneud datganiadau tollau tramor neu gyflogi asiant i wneud y rhain drosoch, gwirio a oes angen papurau ychwanegol ar […]

Darllenwch 'Chwe cham gweithredu' >

Six key actions

Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021

The six key actions many firms may need to take are: Goods – if you import or export goods to the EU, you must get an EORI number, make customs declarations or employ an agent to do them for you, check if your goods require extra papers (like plant or animal products) and speak to […]

Darllenwch 'Six key actions' >

Cyrraedd y safon

Dydd Gwener 15 Ionawr 2021

Ar ôl bod yn un o ddigwyddiadau Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd un o enillwyr y raffl gymorth ac fe ddechreuodd ei busnes ei hun. Darllen yma: Making the cut pdf

Darllenwch 'Cyrraedd y safon' >

Map of the EU

Pontio’r UE

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, bydd rheolau newydd o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Darllenwch sut bydd y rheolau newydd hyn yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i’r UE. Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr ac mae wedi bod mewn cyfnod pontio a fydd yn dod i ben ar […]

Darllenwch 'Pontio’r UE' >