Newyddion


Ysgol Fusnes Rebel yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 4 Ionawr 2023

Mae ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddod â’u cwrs poblogaidd i egin berchnogion busnes ar draws y sir. Bydd Ysgol Fusnes Rebel, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu eu cwrs poblogaidd yng Nghanolfan Fywyd Halo rhwng 20 – 24 Mawrth […]

Darllenwch 'Ysgol Fusnes Rebel yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr' >

Mae Gwobrau Busnesau Bach 2023 bellach yn agored i ymgeiswyr

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi cyhoeddi bod Gwobrau Busnesau Bach 2023 bellach yn agored i ymgeiswyr. Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau a chyfraniadau busnesau bach ac unigolion hunangyflogedig ledled y DU, a gall bawb ymgeisio am ddim. Mae 12 categori ar hyn o bryd, a gall busnesau ymgeisio ar gyfer cyn nifer o gategorïau ag y […]

Darllenwch 'Mae Gwobrau Busnesau Bach 2023 bellach yn agored i ymgeiswyr' >

Mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig cyngor ar ynni i fusnesau

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022

Mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi llunio rhestr o gyngor ar arbed ynni ar gyfer busnesau. Wrth i dymereddau godi ledled y byd, mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cyhoeddi canllaw ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n manylu ar ddatrysiadau effeithlon o ran ynni cost isel neu heb gostau. Mae’r canllaw yn […]

Darllenwch 'Mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig cyngor ar ynni i fusnesau' >

Lansio menter busnes newydd gyda chymorth cyllid

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022

Mae siop goffi newydd wedi agor gyda chymorth cyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise. Agorodd Louise Elston, a’i gŵr Matthew, Coffee@12 ar Heol y Dderwen yn swyddogol ar 8 Medi. Ar ôl i Louise sylweddoli mai ei gwir freuddwyd oedd rhedeg ei siop goffi ei hun, aeth y cwpl […]

Darllenwch 'Lansio menter busnes newydd gyda chymorth cyllid' >

Salon wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ennill Gwobr Diwydiant Harddwch

Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022

Mae salon wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill ‘Salon Trin Gwallt y Flwyddyn’ yn y Gwobrau Diwydiant Harddwch. Enillodd Dean Morgans Salon yn Dunraven Place Salon Gwallt 5 Seren y Flwyddyn yn yr ail Wobrau Diwydiant Harddwch a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Enwebwyd y salon ar gyfer y wobr gan ennill y […]

Darllenwch 'Salon wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ennill Gwobr Diwydiant Harddwch' >

Rhaglen recriwtio ar gyfer graddedigion

Dydd Llun 28 Tachwedd 2022

Mae Venture Graduates yn cynnig gwasanaeth datblygu a recriwtio graddedigion rhad ac am ddim i gysylltu graddedigion gyda busnesau ar draws De Cymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gychwyn graddedigion prifysgol ar eu gyrfa ddewisol a’r gallu i gyfoethogi eu datblygiad proffesiynol. Gall graddedigion a busnesau gofrestru ar y rhaglen 12 mis a fydd yn […]

Darllenwch 'Rhaglen recriwtio ar gyfer graddedigion' >

Cwmni STEM o Ben-y-bont ar Ogwr yn ennill un o Wobrau STEM Cymru

Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022

Mae cwmni STEM o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ennill Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yng Ngwobrau STEM Cymru 2022. Cydnabuwyd EESW-STEM Cymru, sydd wedi’i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Waterton, am ei brosiect sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n dymuno dechrau gyrfa yn y maes STEM. Nod yr elusen annibynnol yw helpu pobl ifanc i gysylltu â […]

Darllenwch 'Cwmni STEM o Ben-y-bont ar Ogwr yn ennill un o Wobrau STEM Cymru' >

Taflen Ffeithiau Cymorth Biliau Ynni bellach ar gael

Dydd Gwener 28 Hydref 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei Thaflen Ffeithiau Cymorth Biliau Ynni ac wedi nodi camau gweithredu i gefnogi busnesau gyda’u biliau ynni ledled y DU. Mae’r daflen ffeithiau’n cynnwys: Cymorth i aelwydydd Cymorth i fusnesau ac eiddo annomestig Diwygio er mwyn mynd i’r afael â phroblemau hirdymor yn sector ynni’r DU Cymorth a chefnogaeth […]

Darllenwch 'Taflen Ffeithiau Cymorth Biliau Ynni bellach ar gael' >

Digwyddiad Rhwydweithio Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – Brecwast Rhwydweithio Nadoligaidd

Dydd Iau 27 Hydref 2022

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr (BBF) yn falch iawn o wahodd busnesau o bob rhan o’r fwrdeistref sirol i’n digwyddiad rhwydweithio sydd ar y gweill. Yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio ardderchog, bydd y digwyddiad yn cynnig llwyfan i ddiweddaru aelodau presennol a darpar aelodau ar weithgareddau’r fforwm i’r dyfodol. Dyddiad: Dydd Iau 1 Rhagfyr […]

Darllenwch 'Digwyddiad Rhwydweithio Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – Brecwast Rhwydweithio Nadoligaidd' >

Lansio gwasanaeth ar-lein newydd i gyflogwyr gefnogi pobl anabl

Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Mae gwasanaeth ar-lein newydd wedi cael ei lansio’n swyddogol gan Lywodraeth y DU i roi’r arfau sydd eu hangen ar gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr anabl. Nod y gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr yw darparu gwybodaeth hanfodol am gefnogi a rheoli gweithwyr sy’n anabl neu sydd â chyflyrau iechyd yn y gwaith. Gall […]

Darllenwch 'Lansio gwasanaeth ar-lein newydd i gyflogwyr gefnogi pobl anabl' >