Newyddion


Stepping Stone Spa yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Sba’r Flwyddyn

Dydd Llun 9 Mai 2022

Mae sba leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Sba’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru. Nod y noson wobrwyo yw dathlu busnesau o fewn y diwydiannau gwallt a harddwch sydd wedi cynnig gwasanaeth cwsmer rhagorol i drigolion. Mae Stepping Stone Spa yng Ngwesty Heronston ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn un […]

Darllenwch 'Stepping Stone Spa yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Sba’r Flwyddyn' >

Cymorth i fewnfudwyr ar gael drwy’r rhaglen AilGychwyn

Dydd Llun 9 Mai 2022

Mae cymorth bellach ar gael i fewnfudwyr sy’n cyrraedd Cymru ar ôl ffoi rhyfel neu erledigaeth ennill cyflogaeth drwy’r rhaglen AilGychwyn. Mae gan fewnfudwyr ystod eang o sgiliau a phrofiad a all weddu i unrhyw fusnes, ac mae cyflogwyr yn cael eu hannog i fuddsoddi ynddynt a’#u helpu i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru. Fel […]

Darllenwch 'Cymorth i fewnfudwyr ar gael drwy’r rhaglen AilGychwyn' >

Green Top Events yn dod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 3 Mai 2022

Lansio marchnad stryd newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Green Top Events, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, wedi dod â’i farchnadoedd bwyd, crefftau a rhoddion artisan i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, ar ôl llwyddo i gael caniatâd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd nifer o fusnesau lleol yn cynnal stondinau ar y farchnad […]

Darllenwch 'Green Top Events yn dod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr' >

Cymdeithas Fusnes Maesteg yn lansio cyfrif Instagram

Dydd Llun 25 Ebrill 2022

Mae Cymdeithas Fusnes Maesteg wedi creu cyfrif Instagram newydd i gefnogi busnesau yng nghanol y dref a helpu i hyrwyddo cynnig siopa’r dref. Mae croeso i unrhyw fusnesau sy’n masnachu yng nghanol tref Maesteg gyfrannu i’r cyfrif drwy anfon lluniau ynghyd â thestun a hashnodau perthnasol. Os hoffech chi gael eich cynnwys ar y cyfrif, […]

Darllenwch 'Cymdeithas Fusnes Maesteg yn lansio cyfrif Instagram' >

Gwahoddiad i fusnesau rannu eu barn ar Agenda Sgiliau’r Dyfodol

Dydd Mawrth 5 Ebrill 2022

Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael gwahoddiad i rannu eu barn ar Agenda Sgiliau’r Dyfodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Lansiwyd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn 2019, ac mae wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd mae busnesau’n gweithio ers y dechrau. Mae’r newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r […]

Darllenwch 'Gwahoddiad i fusnesau rannu eu barn ar Agenda Sgiliau’r Dyfodol' >

Prosiect Gwella a Ffynnu Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio menter dros dro

Dydd Llun 17 Ionawr 2022

Mae Prosiect Gwella a Ffynnu Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio menter dros dro yn swyddogol, wedi’i chynllunio i wahodd busnesau i dreialu syniad ar ffurf siop fflach. Bydd y prosiect yn gweithio drwy ddatblygu cyfres o fentrau dros dro i greu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a busnesau micro dyfu, annog mwy o ymwelwyr i […]

Darllenwch 'Prosiect Gwella a Ffynnu Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio menter dros dro' >

Galw ar fusnesau i noddi cerfluniau Snoopy

Dydd Mawrth 19 Hydref 2021

Gwahoddir busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i noddi cerflun o’r ci Snoopy fel rhan o lwybr cerdded sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Porthcawl y flwyddyn nesaf. Seren y llwybr Dogs Trust, a fydd yn cynnwys chwe cherflun o Snoopy, fydd ffrind poblogaidd Charlie Brown o’r stribed cartŵn Peanuts. Bydd Dogs Trust, sydd […]

Darllenwch 'Galw ar fusnesau i noddi cerfluniau Snoopy' >

Mae ymgynghoriad cyllideb Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lansio

Dydd Mawrth 28 Medi 2021

Mae’r cyngor wedi lansio ei ymgynghoriad cyllideb blynyddol ar gyfer 2021, o’r enw ‘Llywio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’. Nod yr ymgynghoriad yw ymgysylltu â thrigolion ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Drwy gwblhau’r arolwg ar-lein hwn, gallwch rannu eich barn ar ein perfformiad fel awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, a […]

Darllenwch 'Mae ymgynghoriad cyllideb Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lansio' >

Rhybuddio busnesau am sgam twyll

Dydd Gwener 20 Awst 2021

Mae busnesau’n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgâm twyll sy’n targedu cyflenwyr offer presennol a phosibl i sefydliadau fel y cyngor. Yn ddiweddar, mae busnes lleol wedi colli gwerth bron i £40,000 o nwyddau o ganlyniad i dwyll. Atgoffir busnesau fod pob neges e-bost ddilys gan yr awdurdod yn cael ei anfon […]

Darllenwch 'Rhybuddio busnesau am sgam twyll' >

Diweddaru’r Mynegai Eiddo ar gyfer busnesau sy’n chwilio am adeilad canol tref

Dydd Iau 1 Gorffennaf 2021

Mae’r Mynegai Eiddo Canol Tref wedi’i adolygu a’i ddiweddaru, yn caniatáu i fusnesau wneud penderfyniadau gwybodus am eiddo canol trefi heb fod angen ymweliad safle. Bydd darpar brynwyr sy’n chwilio am eiddo yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg yn gallu cyfeirio at y Mynegai i werthuso eiddo ar gyfer eu busnes yn […]

Darllenwch 'Diweddaru’r Mynegai Eiddo ar gyfer busnesau sy’n chwilio am adeilad canol tref' >